Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Medi 2020
Amser:
10.00 -
11.01
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6468
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
2.1 SL(5)609 – Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.2 SL(5)618 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)608 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) (2020)
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(5)610 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (2020)
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.3 SL(5)617 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (2020)
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.4 SL(5)614 – Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch yr amserlen ar gyfer gosod y rheoliadau.
3.5 SL(5)583 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn. Cytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
3.6 SL(5)615 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch ei chanllawiau cyhoeddedig ar gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â choronafeirws.
3.7 SL(5)616 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch pam ei bod yn angenrheidiol i’r rheoliadau ddod i rym cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd, sy’n un o ofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)588 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) (2020)
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
5.2 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
5.3 Gohebiaeth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Bil Marchnad Fewnol y DU
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas â Bil Marchnad Fewnol y DU.
5.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid; Craffu ar drefniadau ymadael â’r UE
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
7 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a chytunodd i gadarnhau’r trefniadau terfynol y tu allan i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 2 Hydref 2020.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol - trafod materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig - trafod materion allweddol
Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
10 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun y Taliad Sylfaenol a fframwaith deddfwriaethol cymorth gwledig o 2021 ymlaen - trafod yr ymateb
Trafododd y Pwyllgor ymhellach y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd ar y pwyntiau i’w cynnwys yn ei ymateb.
11 SICM(5)29 - Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 - trafod yr adroddiad drafft
Bu’r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol Llywodraeth Cymru ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020 a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai ei adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 29 Medi 2020.